Cofnodion y

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

7 Rhagfyr 2023 (drwy Zoom)

 

 

Yn bresennol:

Mark Isherwood AS (Cadeirydd), Sioned Williams AS, Megan Thomas (Ysgrifennydd), Sophie Mason, Rhian Davies, Amanda Say, Andrea Boyce, Andrew Harper, Ann Pankhurst, Cari Jones, Cath Lewis, Gary Simpson, Hannah Peeler, Jan Underwood, Jenny Carroll, Joe Powell, Kat Watkins, Kelly Stuart, Lowri Bartrum, Maggie Hayes, Shahd Zorob, Sheryll Holley (palandeipio), Teresa Carberry, Tracey Blockwell, Trevor Palmer, Owen Williams, Joel Weston

 

Ymddiheuriadau

Llyr Gruffyd AS, Becky Ricketts, Zoe Richards, Lorraine Cosgrove, Teresa Davies, Petra Kennady, Clare Lewis

 

1. Croeso

 

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau a nododd yr ymddiheuriadau.

 

Materion sy’n codi o’r cofnodion blaenorol.

 

Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod nesaf, ond nid oedd Megan wedi clywed ganddynt. Bydd yn cysylltu â nhw eto.

 

Roedd Megan wedi ceisio cysylltu ag UK Finance ond nid oedd wedi clywed dim eto. Roedd yn ceisio dod o hyd i fanylion cyswllt gweithwyr unigol.

Mae’r llythyr at Mark Drakeford ynghylch pasys bws wedi'i ddrafftio i bob pwrpas, a bydd Megan yn ei anfon at Mark a Sioned. 

 

Cyfarfu Megan a Kat â Cari i drafod gwefan Diddymu Taliadau Gofal Cymdeithasol (Scrap Social Care Charges). Daethom i'r casgliad y byddai gwefan Anabledd Cymru yn barth lletya da, ond mae’r costau perthynasol yn sylweddol. Mae Anabledd Cymru yn ystyried cyllid posibl ac opsiynau eraill os nad yw hyn yn ymarferol. 

 

Cytunwyd bod y cofnodion yn gywir.

 

Cynigiwyd gan: Sioned Williams AS

Eiliwyd gan: Marg McNiel

 

2.Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

Ymddiswyddodd Mark Isherwood AS fel Cadeirydd, cymerodd Megan Thomas yr awenau yn y Gadair er mwyn ethol y Cadeirydd nesaf.

 

Cafwyd un enwebiad:

Mark Isherwood AS

Cynigiwyd gan: Sioned Williams AS

Eiliwyd gan:  Owen Williams

 

Felly cafodd Mark Isherwood AS ei ailethol yn ddiwrthwynebiad i swydd y Cadeirydd.

 

Ymddiswyddodd Megan Thomas fel Ysgrifennydd. Cafwyd etholiad ar gyfer swydd yr ysgrifenydd.

 

Cafwyd un enwebiad:

Megan Thomas (Anabledd Cymru)

Cynigiwyd gan: Sioned Williams AS

Eiliwyd gan: Teresa Carberry

Felly cafoddd Megan Thomas ac Anabledd Cymru eu hailethol yn ddiwrthwynebiad i swydd Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd.

 

3.Ymateb Llywodraeth y DU i’r Argyfwng Costau Byw – Joel Weston, Arweinydd Polisi a Budd-daliadau Anabledd yn yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

 

Soniodd Joel am ymateb Llywodraeth y DU i’r argyfwng costau byw. Dechreuodd yn ei swydd yn ystod yr haf y llynedd (2022). Cododd yr argyfwng o ganlyniad i chwyddiant uchel a, chan fod angen ymateb ar fyrder, roedd y Llywodraeth wedi’i chyfyngu o ran targedu’r cymorth y gall ei gynnig. 

 

Holodd Joe Powell ynghylch erthygl a gyhoeddwyd yn y Big Issue yn ddiweddar a oedd yn sôn am ganiatáu i’r Adran Gwaith a Phensiynau weld gwybodaeth am gyfrifon banc pobl ar fudd-daliadau. Dywedodd Joel Weston fod hynny’r tu allan i’w arbenigedd ef ond roedd yn fodlon holi ymhellach ac adrodd yn ôl. 

 

Roedd Jan Underwood yn amau a fydd pobl anabl yn dal i gael y taliad costau byw . Dywedodd fod pobl anabl yn cael eu targedu'n aml ac roedd yn gofyn a fyddai unrhyw newidiadau yn y cyswllt hwn, a pham mae pobl anabl yn cael eu targedu?   Roedd Joel yn gwrthod yr honiad bod y Llywodraeth yn targedu pobl anabl.  Eglurodd nad oedd dim cynlluniau i roi rhagor o daliadau costau byw, ond roedd budd-daliadau fel PIP a Chredyd Cynhwysol yn codi’n unol â chwyddiant.

 

Dywedodd Amanda fod pobl yn defnyddio PIP at wahanol ddibenion, gan gynnwys i dalu biliau’r cartref, i dalu am offer neu am eu gofal. Nid oes unrhyw gydnabyddiaeth ynghylch pa mor bell y mae’n rhaid i PIP ymestyn i rai pobl anabl nac o’r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer costau ychwanegol. Ymatebodd Joel drwy ddweud bod budd-daliadau PIP wedi’u cynllunio i helpu pobl anabl gyda’u costau ychwanegol, ond gan ei fod yn cael ei ddosbarthu i 6 miliwn o bobl, nid yw’n  bosil asesu anghenion unigol. Mae'n ceisio sefydlu angen a chaiff ei dalu ar lefelau gwahanol ond mae'n eithaf cyffredinol. Nid oes unrhyw gynlluniau i'w newid ar hyn o bryd.

 

Aeth Amanda rhagddi i holi a yw’r argyfwng costau byw yn gyfle i newid hyn ar gyfer y rhai sy'n defnyddio cyfarpar sydd â chostau ychwanegol ynghlwm wrtho? Er bod dadl dros hyn, meddai Joel, nid oes gallu o fewn y system ei hun ac roedd y pwyslais ar gael arian i bobl anabl cyn gynted â phosibl.

 

Dywedodd Sioned Williams AS fod costau wedi codi 50% ond, er hynny, nid oedd Datganiad yr Hydref yn cynnwys cymorth i bobl, yn enwedig pobl anabl sy’n dioddef mwy oherwydd costau uchel. Gofynnodd sut y penderfynwyd ar y taliad costau byw o £150 a pham na chafodd ei gymhwyso eleni. Dywedodd Joel fod y Llywodraeth wedi gorfod dod o hyd i atebion mewn amser cyfyngedig ac roedd wedi paratoi pecyn ariannol, yna penderfynu sut i'w rannu rhwng y grwpiau roedd angen yr arian ychwanegol arnynt. Mae gan lawer o bobl anabl hawl i fudd-daliadau eraill hefyd a bydd nifer wedi gallu hawlio taliadau eraill yn ogystal â’r £150.  Mae’n credu y bydd taliad arall a gaiff ei roi ar sail prawf modd yn cael ei gyflwyno yn y gwanwyn ond, ar ôl hynny, bydd y Llywodraeth yn canolbwyntio ar ostwng chwyddiant.

 

Gofynnodd Gary Simpson a yw PIP yn addas at y diben, gan grybwyll y gellid defnyddio’r arian yn well a bod angen gwneud mwy i integreiddio’r model cymdeithasol. Mae'n gofyn a ddylid ailwampio PIP ac a ddylid dod â’r broses 2 adran i ben. Ymatebodd Joel drwy ddweud bod y Llywodraeth yn credu bod PIP yn addas at y diben. Dywedodd fod y Papur Gwyn ar Iechyd ac Anabledd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dwyn y ddau asesiad ynghyd.

Dywedodd Mark Isherwood AS ei fod wedi helpu llawer o etholwyr i fynd drwy’r broses apêl a bod bron pob un ohonynt wedi bod yn llwyddiannus. Holodd beth roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei wneud i symleiddio’r broses ac atal gwastraff i'r Adran ac i fywydau pobl anabl, a hynny dim ond i brofi'r hyn a oedd yn amlwg o'r cychwyn cyntaf. Dywedodd Joel fod y rhan fwyaf o benderfyniadau’n cael eu gwrthdroi mewn tribiwnlys ond dim ond cyfran fach o’r bobl yn mynd â’u hachos gerbron tribiwnlys ac weithiau daw gwybodaeth i’r amlwg nad oedd ar gael i’r aseswr gwreiddiol. Roedd yn cydnabod bod hyn yn broblem, ond dywedodd fod yr Adran yn parhau i geisio’i datrys.

 

Wrth ymateb, dywedodd Mark fod gan bron pob un o’r achosion roedd yn cyfeirio atynt nam anweledig. Er bod Mark wedi ysgrifennu droeon at y Gweinidogion perthnasol, roedd y broblem yn parhau. Gofynnodd a oedd yr Adran yn ystyried sut y gellid sicrhau bod yr arbenigwr meddygol sy'n cynnal y cyfweliad yn deall amgylchiadau'r ymgeisydd. Roedd yr aseswyr, meddai Joe, yn cael eu contractio, ac un ffordd o fonitro’u perfformiad oedd drwy edrych ar ansawdd yr adroddiadau. Dywedodd mai un o fanteision y pandemig oedd bod asesiadau'n cael eu gwneud drwy fideo ac roedd hynny’n caniatáu i arbenigwyr o bob rhan o'r DU gynnal cyfweliadau gyda mwy o bobl.

 

Soniodd Gary Simpson am un apêl lle nad oedd gan yr aseswr unrhyw brofiad meddygol a'i fod yn gweithio mewn maes cwbl amherthnasol cyn dod yn aseswr. Roedd angen i aseswyr fod â rhywfaint o brofiad meddygol yn ei farn ef. Cyhyd ag y gwyddai, meddai Joel, roedd angen rhywfaint o brofiad meddygol i fod yn aseswr, ond nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd ganddynt  ddealltwriaeth lawn o bob nam neu gyflwr iechyd.

 

Cafodd Cari Jones brofiad cadarnhaol pan oedd yn byw yn yr Iseldiroedd lle mae’r agwedd at fudd-daliadau’n fwy unigolyddol. Yn system yr Adran Gwaith a Phensiynau, ar y llaw arall, roedd yn wynebu ableddiaeth systematig wrth geisio cael cymorth iddi hi ei hun a’i phlentyn anabl. Gofynnodd sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn sicrhau eu bod yn llogi digon o bobl â phrofiad bywyd a chyfeiriodd at yr ymchwil sy’n cael ei gynnal mewn perthynas â PIP, gan ofyn pa gwestiynau sy’n cael eu gofyn? Mae llawer o bobl anabl yn teimlo nad yw’r system yn gweithio iddyn nhw.  Dywedodd Joel fod problemau’n ymwneud â’r ffurflenni, y cwestiynau a’r diffyg cymorth i unigolion o fewn y system yn her barhaus i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae angen gofyn cwestiynau er mwyn asesu anghenion unigol, ond maent yn ei gwneud yn anoddach i bobl anabl gael cymorth. O ran profiad bywyd, o fewn eu tîm polisi, roedd cryn dipyn o brofiad bywyd ac roedd nifer o gydweithwyr Joel yn bobl anabl. Mae rhan o'u tîm polisi yn edrych yn benodol ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, felly maent yn gwneud cymaint â phosibl i geisio barn pobl.

 

Dywedodd Sophie Mason nad yw rhai systemau'n gallu ystyried y costau ychwanegol y gallai person anabl eu hwynebu wrth gael asesiadau a gofynnodd a oedd cynlluniau ar y gweill i newid y system er mwyn ystyried y ffactorau hynny'n well. Dywedodd fod y broses o lenwi ffurflenni cais yn anodd i rai pobl anabl a gofynnodd sut maent yn ceisio hwyluso’r broses yn y dyfodol. Yn ôl Joel, roeddent yn gweithio ar ddatblygu system ddigidol, er y byddai angen ffurflenni papur o hyd. Roedd y ffurflen gais i’w gweld yn fwy cymhleth nag y mae mewn gwirionedd, meddai, a gallai ffurflen ddigidol fod yn haws i’w llenwi.  O ran cael cymorth i lenwi’r ffurflen, dywedodd Joel ei bod yn anodd sicrhau cydbwysedd - gwneud penderfyniadau yw eu rôl, nid eirioli. Yr ateb efallai, meddai, yw sut y maent yn cefnogi sefydliadau eraill i wneud y gwaith o helpu pobl anabl i lenwi'r ffurflenni hyn.

Disgrifiodd Trevor Palmer y broses o gynhyrchu ffurflen ar-lein hygyrch fel celfyddyd. Dywed y dylai'r Adran Gwaith a Phensiynau ymgynghori â chyrff pobl anabl drwy gydol y broses o ddylunio'r ffurflenni hyn, yn enwedig yn ystod y cyfnod datblygu. Roedd Joel yn cytuno; mae eu tîm Ymchwil Defnyddwyr yn gweithio gyda phobl anabl a chyrff sy'n cynrychioli pobl anabl ar hyn o bryd.

 

Cafwyd y cyfraniadau a ganlyn yn sgwrs y cyfarfod a chawsant eu darllen ar goedd gan Kat Watkins.

 

Gofynnodd Jan Underwood pam nad yw gweithwyr meddygol proffesiynol, sy’n adnabod yr unigolyn yn dda, yn cael cyflwyno tystiolaeth. Ymatebodd Joel drwy ddweud y gellir cyflwyno tystiolaeth feddygol, ond penderfyniad y Llywodraeth yw peidio â seilio’r asesiad yn gyfan gwbl ar dystiolaeth feddygol. Roedd yn cydnabod bod anghysondeb ond dywedodd hefyd fod yr angen i gyflwyno tystiolaeth yn rhoi straen ar ysbytai a staff meddygol.

 

Gofynnodd Leandra Craine pam mae’n rhaid i bobl anabl sydd wedi penodi rhywun i weithredu ar eu rhan gael eu hailasesu bob tro y caiff PIP ei adnewyddu. Yn ôl Joel, mae’n bwysig ailasesu pobl gan fod eu hanghenion yn newid. Mae’n bosibl y bydd angen llai o gymorth ariannol arnynt neu mae’n bosibl y byddant yn gallu hawlio mwy o fudd-dal.

 

4.  Uwchgynhadledd Anabledd – Mark Isherwood MS

 

Eitem a gynigiwyd gan Mark Isherwood MS. Mark yw cynrychiolydd y Senedd ar grŵp seneddwyr ag anableddau’r Gymanwlad y mae’r DU yn perthyn iddo. Drwy hyn, clywodd am Uwchgynhadledd Anabledd gyntaf erioed yr Alban, a drefnwyd gan Grŵp Trawsbleidiol yr Alban, ac a gynhaliwyd ar 25/11/2023. Mae Mark wedi estyn allan at nifer o bobl, gan gynnwys Anabledd Cymru, i drafod y posibilrwydd o gynnal digwyddiad tebyg.

 

Roedd Rhian Davies yn cytuno â'r syniad o gynnal digwyddiad, ond roedd angen bod yn ofalus ac ystyried yr adnoddau sydd eu hangen i'w ariannu. Aeth i ddigwyddiad Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod “We Belong Here”, a bu’n rhaid i’r Rhwydwaith godi cryn dipyn o arian ar gyfer hwn.  Awgrymodd Mark y byddai’n werth cysylltu â’r grŵp yn yr Alban i holi sut y cawsan nhw adnoddau ar gyfer eu digwyddiad. Cytunodd Rhian gan awgrymu y dylid cynnal cyfarfod o Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru i ystyried yr holl adnoddau sydd ar gael.

 

Camau y cytunwyd arnynt: Megan i gysylltu â’r grŵp yn yr Alban i ofyn am gyngor a Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru i drafod y posibilrwydd o gynnal digwyddiad. Megan i adrodd yn ôl ar hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

5. Unrhyw fater arall

 

Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.

 

Camau i’w cymryd:

 

1. Megan i gysylltu â Grŵp Trawsbleidiol yr Alban ar Anabledd i drafod y posibilrwydd o gynnal Uwchgynhadledd Anabledd Cymru

2. Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru i gwrdd a thrafod y posibilrwydd o gynnal digwyddiad o’r fath.

3. Megan i anfon llythyr at Mark Drakeford AS ynghyd â Mark Isherwood AS a Sioned Williams AS.

4. Megan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am dudalen we Diddymu Taliadau Gofal Cymdeithasol.